Update on the 48m Turbine Planned for Tyfos near Llandrillo.

arrow1

Tyfos Planning Application No: 07/2015/0414
for 1 wind turbine 48.01m. (157’) to blade tip

This application will now be heard at the November 11 Planning Committee Meeting. It is still open for comment until October 22, so please object by then.

This application is another threat to the landscape of the Upper Dee Valley . It would be in a very prominent position, would dominate the skyline above Llandrillo and be fully visible from most of the valley between Cynwyd and Llandderfel. Overbearing is a good description. It is for one turbine of 48.01m/157ft. and would add to the cumulative impact othe two Syrior turbines but with one major difference, the large blades will sweep an area 3.5 times larger than the Syrior ones and so will have a heightened impact. It really will change the character of the area and so, if you object to your visual amenity being stolen like this, please make your voice heard. Some background notes follow at the end of this letter to help you.

To OBJECT online, go to:
Your search engine e.g. Google,
Type in ‘Denbighshire CC planning applications’ and ‘search’
Click on ‘Search and comment on application/ Denbighshire County Council’
Click on ‘Find a planning application’
Fill in Reference No: ‘07/2015/0414’ and click ‘search’
Then click on ‘Make Comment’
Fill in the form and click ‘submit’
(It is better to have your comment/objection written down beforehand as there is a limited amount of time to fill in the form before it becomes ‘timed out’.)

To OBJECT by post, please write to:
Planning Department,
Denbighshire County Council,
County Hall, Wynnstay Road,
RUTHIN, LL15 1YN
(Be sure to refer to Application No: 07/2015/0414 and give your name and address)

Notes:

i. the development will change the landscape character of the area and will introduce a pervasive adverse visual impact to the Dee Valley between Llandrillo and Cynwyd, unavoidably visible from the Berwyn Mountains.

ii. the applicants have ignored the relevant Conwy and Denbighshire Landscape Sensitivity and Capacity Assessment for Wind Energy Development. This application is contrary to two top level Strategy Areas which should be protected but which either include it or from which it will be seen.

iii. the area affected has also been defined by Denbighshire County Council as an Area of Outstanding Beauty (AOB). In 2012 the Council said “it is important to maintain strong planning policies to protect and conserve the natural beauty of this area in the Local Development Plan (LDP)”. It would be hard to dispute this assessment.

iv. the LDP policy VOE2 says “development that would cause unacceptable harm to the character and appearance of the landscape (of an AOB)…..will not be permitted. This application appears to be in direct contravention of this policy.

v. the application is so poorly drawn up that it is not possible to properly assess its visual, landscape and cumulative impacts. The viewpoints have been wrongly and inadequately selected so that the full impact is not depicted. These failures have been exacerbated by low quality photographic images. The examples at the bottom of this page, prepared by us, give a much clearer idea of the sheer prominence of this proposal and its impact.

vi. the application has been prepared without applying best practices and should, at the very least, be revised and resubmitted for consultation to remedy these many deficiencies identified in the critique prepared by Environment Information Services (EIS) on behalf of STEMM and submitted to Denbighshire Planning.

vii. the application adds to the random and piecemeal proliferation of turbines across South Denbighshire, cumulatively creating a landscape which may harm the visitor economy. As a resident you will suffer further loss of visual amenity. As a visitor you may feel that the change in character of the area will make you less likely to visit the area and thus reduce the money going into the important visitor economy.

viii. the size, positioning and huge blade size of the turbine, (three and a half times the swept area of the Syrior turbines) will mean that for many homes the low afternoon sun would, in future, be seen through the restless flicker of the turbine blades.

ix. at 230kW the capacity of the turbine is far in excess of the needs of the farm and therefore, rather than just being farm diversification, can better be described as industrial development in the open countryside.

arrow2

Tyfos – Rhif Cais Cynllunio : 07/2015/0414
ar gyfer un tyrbin gwynt 48.01mdr. (157 ‘) i flaen y llafn

Bydd y cais hwn yn awr yn cael ei glywed yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar yr 11eg o Dachwedd 2015.

Maent yn parhau i dderbyn sylwadau tan yr 22ain o Hydref, felly gwrthwynebwch cyn hynny os gwelwch yn dda.
Mae’r cais hwn yn fygythiad arall i dirwedd Dyffryn Dyfrdwy Uchaf. Byddai’n sefyll mewn safle amlwg iawn, yn dominyddu’r gorwel uwchben Llandrillo ac yn gwbl weladwy yn rhan fwyaf o’r dyffryn rhwng Cynwyd a Llandderfel. Mae gormesol yn ddisgrifiad da. Mae’r cais am un tyrbin o 48.01mdr/157tr. a byddai’n ychwanegu at effaith gronnus dau dyrbin Syrior, gydag un gwahaniaeth mawr, – byddai’r llafnau eang yn ysgubo ardal 3½ gwaith mwy na llafnau Syrior ac felly byddai’r effaith yn waeth. Byddai’n wir newid cymeriad yr ardal ac felly, os ydych yn gwrthwynebu i’ch amwynder gweledol gael ei ddwyn fel hyn, os gwelwch yn dda, rhowch wybod eich barn. Mae rhai nodiadau cefndir yn dilyn ar ddiwedd y llythyr hwn i’ch helpu.

I WRTHWYNEBU ar y we, ewch i:

Eich peiriant chwilio e.e. Google,
Teipiwch i mewn ‘Gwneud cais cynllunio/Cyngor Sir Ddinbych’
Cliciwch ar ‘’Gwneud cais cynllunio/Cyngor Sir Ddinbych’
Cliciwch ar ‘Chwilio am geisiadau a gadael sylwadau’
Cliciwch ar ‘Chwilio am gais cynllunio’
Llenwch Cyfeirnod Rhif: ’07 / 2015/0414’ a cliciwch’ chwilio ‘
Yna cliciwch ar ‘Sylw ar y cais cynllunio’
Llenwch y ffurflen a chliciwch ‘anfon’
(Mae’n well nodi lawr eich sylwadau / gwrthwynebiad o flaen llaw gan fod swm cyfyngedig o amser i lenwi’r ffurflen cyn i’ch sesiwn ‘redeg allan’.)

I WRTHWYNEBU drwy’r post, ysgrifennwch at:

Adran Gynllunio,
Cyngor Sir Ddinbych,
Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay,
RHUTHUN, LL15 1YN
(Cofiwch nodi Rhif y Cais: 07/2015/0414 yn ogystal a’ch enw a’ch chyfeiriad)

Nodiadau:

i. Byddai’r datblygiad yn newid cymeriad tirwedd yr ardal a byddai’n cyflwyno effaith weledol andwyol a treiddiol i’r Dyffryn Dyfrdwy rhwng Llandrillo a Cynwyd, ac yn anorfod weladwy o Fynyddoedd y Berwyn.

ii. Mae’r ymgeiswyr wedi anwybyddu’r adroddiad Asesiad o Gynhwysedd a Sensitifrwydd Tirwedd ar gyfer Datblygiad Ynni Gwynt, Conwy a Sir Ddinbych. Mae’r cais hwn yn groes i ddwy o’r Ardaloedd Strategaeth o lefel uchaf, a dylid eu diogelu.

iii. Mae’r ardal hon wedi cael ei ddiffinnio gan Gyngor Sir Ddinbych fel Ardal o Harddwch Eithriadol (AHE). Yn 2012 dywedodd y Cyngor “mae’n bwysig cael polisïau cryf i warchod a chadw harddwch naturiol yr ardal hon yn y Cynllun Datblygu Lleol.” Byddai’n anodd anghytuno â’r asesiad yma.

iv. Mae polisi CDLl, VOE2 yn dweud “na fyddai datblygiad fyddai’n achosi niwed annerbyniol i gymeriad a golwg y dirwedd (o fewn AHE) ….. yn cael ei ganiatau”. Mae ymddangos fod y cais hwn yn hollol groes i’r polisi hwn.

v. Mae’r cais wedi cael ei lunio mor wael, nid yw’n bosib asesu yn llawn ei effaith weledol, tirweddol na’r effeithiau cronnus. Mae’r safbwyntiau a ddewiswyd yn anghywir ac yn annigonol fel nad yw’r effaith lawn yn cael ei bortreadu. Mae’r methiannau wedi cael eu gwaethygu gan ddelweddau ffotograffig o ansawdd isel. Mae’r enghreifftiau ar waelod y dudalen hon, a baratowyd gennym ni, yn rhoi syniad llawer cliriach o amlygrwydd llwyr y cynnig hwn, a’i effaith.

vi. Mae’r cais wedi cael ei baratoi heb ddefnyddio arferion gorau, a dylai felly, o leiaf, gael ei ddiwygio a’i ailgyflwyno ar gyfer ymgynghoriad i gywiro nifer o ddiffygion nodwyd yn y dadansoddiad a baratowyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIS) ar ran STEMM, ac a gyflwynwyd i Adran Cynllunio Sir Ddinbych.

vii. Mae’r cais yn ychwanegu at y doreth hap a thameidiog o dyrbinau ledled De Sir Ddinbych, sydd gyda’i gilydd yn creu tirlun a allai niweidio’r economi ymwelwyr. Fel un o’r trigolion, byddech yn dioddef colli mwy o amwynder gweledol. Fel ymwelwr, byddech yn debyg o deimlo y bydde’r newid i gymeriad yr ardal yn eich gwneud yn llai tebygol o ymweld â’r ardal a felly, byddai’r arian sy’n mynd i mewn i’r economi ymwelwyr pwysig yn lleihau.

viii. Byddai maint, lleoliad a llafnau enfawr y tyrbin, (llafn gyda ysgubiad fyddai dair a hanner o weithiau yn fwy na tyrbinau Syrior) yn golygu y byddai llawer o gartrefi yn y dyfodol yn gweld haul isel y prynhawn trwy gryndod aflonydd y llafnau.

ix. Mae cynhwysedd tyrbin o 230kW yn llawer mwy nag anghenion y fferm, ac felly, yn hytrach na bod yn gynllun arallgyfeirio ar ffermydd, gellir yn well ei ddisgrifio fel datblygiad diwydiannol yng nghanol cefn gwlad.

Views are from Fron Goch, Llandrillo, and, Pont yr Hendwr, Llandrillo.

Copyright © 2015 STEMM, All rights reserved.

http://www.stemm.org.uk

Leave a Reply